Cydweithio Diderfyn
Cydweithio Diderfyn
- Mynediad 8.30 tan 17.30, dydd Llun i ddydd Gwener
- Cyfeiriad busnes cofrestredig
- Band eang a WiFi cyflym iawn
- Te a choffi diderfyn am ddim
- Traean oddi ar ein Hystafell Gyfarfod ar y safle
- Cewch ostyngiad o 10% ar aelodaeth flynyddol!
Wedi dechrau eich busnes eich hun neu’n gweithio o bell? Mae rhai pobl wrth eu bodd yn gweithio gartref, ond i eraill, mae’r newydd-deb yn pylu’n fuan a gall fynd yn ddiflas ac yn unig yn eithaf cyflym. Gallai Cydweithio Diderfyn fod yr ateb rydych yn chwilio amdano!
Mae gan Welsh ICE ofod cydweithio bywiog ar gyfer entrepreneuriaid, gweithwyr llawrydd a gweithwyr o bell a all weithredu ar eu pen eu hunain, ond sydd angen cymdeithasu (neu seibiant rhag gwrthdyniadau’r cartref) pan fyddant yn gweithio.
Pam Cydweithio?
Mae cydweithio yn ffordd wych o rwydweithio. Wyddoch chi byth pwy fyddwch chi’n cwrdd â nhw na sut y gallant helpu i dyfu eich busnes.
Mae pob pecyn cydweithio yn cynnwys cyfeiriad busnes cofrestredig, llinell ffôn (am gost ychwanegol), gwasanaethau derbynfa, a mwy.
Wedi’n lleoli yng Nghaerffili, dydyn ddim ond 20 munud o Gaerdydd mewn car neu ar y trên ac mae’n hawdd ein cyrraedd o drefi ledled De Cymru. Beth am ymuno â’n cymuned ffyniannus?





