Mae’r ffordd rydym yn gweithio wedi newid am byth
Nid yw gweithio’n hyblyg neu hybrid, yn mynd unrhyw le. P’un a ydych yn gweithio ar eich pen eich hun neu’n rhan o sefydliad mwy, efallai y byddwch yn darganfod bod gweithio o gartref 100% o’r amser yn arwain at deimladau o unigedd a’n llesteirio eich cynhyrchiant.
Bydd ymuno â lle gweithio cydweithredol yn helpu i ddiffinio’r cydbwysedd gwaith-bywyd pwysig hwnnw. Yn ogystal, byddwch yn cael cysylltiad â rhwydwaith eang o berchnogion busnes arbenigol sy’n cefnogi ei gilydd, ac mae’r cyfleoedd cydweithredol yn enfawr.
Opsiynau Aelodaeth
Edrychwch a darganfyddwch y dewis neu opsiwn aelodaeth sy’n addas i chi








Pas Diwrnod
Hollol hawdd, hollol hyblyg a dim angen ymrwymiad. Os ydych yn chwilio am newid golygfa, cymrwch un o’n pasiau dydd!








Coworking Lite
Cael y manteision gwych o Gydweithio Diderfyn heb ymrwymo i gost pum diwrnod yr wythnos! Mae Coworking Lite yn berffaith ar gyfer yr entrepreneur prysur nad yw’n gallu mynd i’r swyddfa bob dydd o’r wythnos.








Gydweithio Diderfyn
Yn flinedig o weithio o gartref? Mae ein haelodaeth Hotdesking Diderfyn yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol, freelancers ac entrepreneuriaid sy’n chwilio am gysylltu â chymdeithasu gydag eraill. Yn cynnwys te a choffi, wifi a chyfeiriad busnes cofrestredig.








Desg Benodol
Eisiau mwynhau awyrgylch gwych a chael lle eich hun? Dewch â’ch ail sgrin, llun o’ch cath – unrhyw beth sy’n gwneud y lle’n eich un chi.
Mae aelodaeth Desg Benodol yn rhoi cydweithio diderfyn gyda’ch desg eich hun. Perffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol, freelancers ac entrepreneuriaid sy’n chwilio i weithio, cysylltu â chymdeithasu gyda phobl debyg i chi!








Aelodaeth Rithwir
Chwilio am swyddfa rithwir ger Caerdydd? Bydd cyfeiriad busnes cofrestredig yn gwneud i’ch busnes edrych yn fwy proffesiynol. Bydd eich post yn cael ei storio yn eich hambwrdd post eich hun ac yn barod i’w gasglu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb-5yp.

