Skip to main content

Mae ein lle cydweithio wedi’i gynllunio ar gyfer perchnogion busnes, gweithwyr llawrydd, gweithwyr o bell ac unrhyw un sy’n chwilio am le ffres a bywiog i weithio. Mae ein Diwrnod Agored Cydweithio yn ffordd wych o brofi’r lle, cwrdd â phobl o’r un anian a gweld sut y gall cydweithio wneud eich diwrnod gwaith yn haws ac yn fwy pleserus.

Dyma beth allwch chi ei fwynhau yn ystod y dydd:

  • Te a choffi diderfyn i’ch cadw’n llawn egni
  • Wi-Fi cyflym iawn er mwyn i chi allu gweithio heb ymyriadau
  • Lleoedd eistedd hyblyg i gyd-fynd â’ch ffordd o weithio
  • Awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar sy’n gwneud cydweithio’n hawdd
  • Cyfleoedd rhwydweithio gyda busnesau a gweithwyr llawrydd eraill
  • Caffi ar y safle am damaid cyflym neu sgwrs anffurfiol

…a llawer mwy i wneud eich diwrnod yn gynhyrchiol a hwyliog!

Gallwch aros am y diwrnod cyfan neu alw heibio am ychydig oriau – chi sy’n penderfynu. Dewch i weld pam mae cydweithio yn Welsh ICE yn fwy na lle gwaith – mae’n gymuned.