Emily Daniels
Emily Daniels
Cynorthwyydd Cymunedol
Emily yw ein Cynorthwyydd Cymunedol. Mae’n debygol mai hi fydd yr wyneb cyntaf y byddwch yn ei weld pan fyddwch yn ymweld, ac mae wrth law bob amser i ateb ymholiadau a chefnogi ein hymwelwyr a’n haelodau. Os oes gennych gwestiynau am ein canolfan, neu os hoffech wybod mwy am ein digwyddiadau a’n gwasanaethau, mae Emily yn barod i’ch helpu.
Y tu allan i’r ganolfan, mae Emily yn cynnal digwyddiadau cymunedol sy’n dod â menywod ynghyd trwy amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai. Mae hefyd i’w chanfod yn aml yn chwilota mewn siopau hen bethau, yn crefftio ei gemwaith â llaw neu’n treulio amser gwerthfawr gyda’i hanwyliaid.
Os ydych chi’n ymweld â’r ganolfan, mae Emily wrth law bob amser am sgwrs. Rhowch wybod iddi sut hwyl sydd arnoch chi!
