Skip to main content

Cydweithio â ICE!

  • Cymorth wedi’i addasu
  • Dod yn bartner hwb – fe wnawn ni eich helpu i greu cymuned fel ein un ni!
  • Cefnogi un o’n rhaglenni arbenigol

Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru â ICE, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]!

Mae Welsh ICE yn helpu pobl i ddechrau a thyfu busnesau. Rydym yn gweld pa mor bwysig yw busnesau bach i’r economi lleol. Mae 16 miliwn o bobl yn y DU yn gweithio mewn SMEs, sy’n gwneud 98% o fusnesau’r sector preifat. Mae busnesau bach yn helpu i greu twf lleol.

Rydym yn cynnig cyfuniad unigryw o le cydweithio, hyfforddiant a datblygu, creu cynnwys a chefnogaeth mentora, ac mae gennym hefyd y gymuned fwyaf o gyfranwyr hunangyflogedig yng Nghymru. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at ein cenhadaeth i helpu busnesau i ddechrau, tyfu a ffynnu.

Sut gallwch weithio mewn partneriaeth â ni?

  • Noddi un o’n rhaglenni cyflymu blaenllaw, fel Clwb 5-9, i greu effaith go iawn gyda’ch cymunedau lleol, grwpiau lleiafrifol neu grŵp penodol o’ch dewis.
  • Dod yn bartner hwb llwyddiannus drwy ddefnyddio ein degawdau o arbenigedd.
  • Manteisio ar ein tîm ifanc ac arloesol trwy ein gwasanaethau creu cynnwys a mentora.
  • Datrys problemau a dod o hyd i atebion creadigol trwy ein Hackathons wedi’u teilwra.

Dyma ychydig o ffyrdd y gallwch weithio gyda Welsh ICE, ond byddem wrth ein bodd clywed eich syniadau chi hefyd 🚀