
Cydweithio
Ffeindiwch y cydbwysedd perffaith rhwng gweithio o gartref a defnyddio lle proffesiynol trwy archwilio ein hopsiynau cydweithio hyblyg.
Mae cydweithio yn ateb gwych i weithwyr llawrydd, perchnogion busnes a gweithwyr o bell sy’n chwilio am gyfle i gysylltu a chymdeithasu gyda phobl o’r un anian, wrth ddianc rhag pethau sy’n tynnu eich sylw gartref, fel y tasgau cartref hynny!
Rhowch gynnig arno i weld sut y gall helpu i wella eich cynhyrchiant, eich rhwydwaith a’ch creadigrwydd.
Archwiliwch ein hopsiynau cydweithio isod!
Beth sydd ar gael
- Lle proffesiynol i weithio
- Wi-Fi cyflym iawn
- Te a choffi am ddim, heb gyfyngiad
- Cyfeiriad busnes cofrestredig
- Gostyngiadau ar ystafelloedd cyfarfod
Opsiynau Cydweithio
Archwiliwch opsiynau cydweithio hyblyg sy’n addas i bob ffordd o fyw.
Pas Diwrnod
Hollol hawdd, hollol hyblyg a dim angen ymrwymiad. Os ydych chi eisiau newid golygfa o bryd i’w gilydd, dewch am ddiwrnod gyda’n Pas Diwrnod!
Gydweithio Lite
Mae Gydweithio Lite yn berffaith ar gyfer yr entrepreneur prysur nad yw’n gallu dod i’r swyddfa bob dydd. Mwynhewch fanteision gwych Gydweithio Diderfyn heb ymrwymo i gost pum diwrnod yr wythnos!
Gydweithio Diderfyn
Wedi blino gweithio o gartref? Mae ein haelodaeth Gydweithio Diderfyn yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid sy’n chwilio am gyfle i gysylltu a chymdeithasu gyda phobl o’r un anian.
Mae’n cynnwys te a choffi am ddim, Wi-Fi diderfyn a chyfeiriad busnes cofrestredig.
Desg Benodol
Eisiau mwynhau awyrgylch gwych a chael lle eich hun? Dewch â’ch ail sgrin, llun o’ch cath, unrhyw beth sy’n gwneud y lle’n un eich hun.
Mae aelodaeth Desg Benodol yn rhoi mynediad diderfyn i gydweithio gyda’ch desg eich hun. Perffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid sy’n chwilio am le i weithio, cysylltu â chymdeithasu gyda phobl o’r un anian.
Dewch o hyd i’r opsiwn sy’n gweithio i chi
Sylfaenol
- Lle proffesiynol i weithio
- Wifi gyflym
- Te a choffi am ddim
- Cyfeiriad busnes cofrestredig
- Gostyngiadau ar ystafell cyfarfod
Cyfleusterau
- Franking machine
- Argraffydd
- Stoc ysgrifennu
- Parcio am ddim ar y safle
- Mynediad i bobl anabl
- Cegin
- Derbynfa
- Cawodydd
- Rack beiciau
- Lle diogel
- Ac llawer mwy!
Atodiadau Hwyl
- Caniatáu anifeiliaid anwes
- Digwyddiadau a chlybiau cymdeithasol
- Caffi a bar ar y parc busnes
- Bwth Ffôn
Wedi’i leoli yng Nghaerffili, nid ydym yn bell o Gaerdydd, dim ond tua 20 munud i ganol y ddinas mewn car neu drên, ac rydym yn agos at yr M4.
Rydym yn hygyrch iawn o drefi eraill yn Ne Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Cwmbrân, Merthyr, Y Barri, Penarth ac ymhellach. Mae ein cydweithwyr a’n haelodau yn teithio i ICE bob dydd o bob rhan o Dde Cymru.
Beth am ymuno â nhw?
[grw id=18158]