Skip to main content



IGNITE Caerffili

Grymuso Busnesau Caerffili i Ddechrau a Thyfu

Mae Ignite Caerffili yn fenter gyffrous wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU a Chyngor Caerffili. Ein cenhadaeth yw helpu busnesau lleol i ffynnu trwy gynnig cefnogaeth lawn, rhwydweithio, rhaglenni arloesol, a chyfleoedd gwerthfawr.

Ymunwch â ni i fanteisio ar yr adnoddau, arbenigedd a chyfleoedd sydd ar gael. P’un a ydych yn dechrau busnes newydd neu’n ehangu un presennol, rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Darllenwch isod am fwy o wybodaeth neu edrychwch ar ein digwyddiadau sydd yn dod fyny.

Caerphilly Ignite logo
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU





Sut ydym ni’n gwneud hyn?

Ffeiriau Cymorth Busnes Misol yng Nghaerffili

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher olaf pob mis ar gyfer ein Ffeiriau Cymorth Busnes. Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio i gynnig cymorth busnes 121 gan ystod o sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Business Wales, The Prince’s Trust, Development Bank of Wales, a mwy.

P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n chwilio am ffyrdd i dyfu, mae ein ffeiriau’n fan perffaith i gael y cyngor a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch. Dysgwch fwy yma.

Business Support Fair
Ffair Cymorth Busnes yng Nghanolfan Swyddi Caerffili
People networking around a table
Rhwydweithio yng Nghaerffili

Cyrsiau Twf i Fusnesau’r Stryd Fawr

Mae ein cyrsiau twf yn cefnogi anghenion busnesau’r stryd fawr. Pynciau’n cynnwys:

  • Dod o Hyd i Gwsmeriaid: Dysgwch sut i ddenu’r gynulleidfa iawn.
  • Cydweithio: Dysgwch sut mae gweithio gyda phartneriaid yn helpu eich busnes.
  • Gwydnwch: Adeiladwch fusnes sy’n gallu wynebu heriau ac aros yn gryf.
    Edrychwch ar ein digwyddiadau nesaf yma.

Cyfleoedd Masnachu Prawf yn Ffos Caerffili

Gyda chymorth Ffos Caerffili, gallwch brofi eich cynnyrch mewn siop pop-up am fis.

Defnyddiwch y lle hwn i gael adborth gan gwsmeriaid a gwella eich busnes.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb yma.

Adam and Bethan from Bishop, Please! posing in the popup shop, surrounded by shelves of products.
Bishop, Please! Masnachu Prawf yn Ffos Caerffili
People sat around a table in the coworking space, networking.
Rhwydweithio Caerphilly Business Club

Cydweithio Lleol a Chymorth Rhwydweithio

Trwy gydweithio â Town Sq a Caerphilly Business Club rydym yn cynnig mentrau Cydweithio Lleol a digwyddiadau rhwydweithio i hyrwyddo cymuned gefnogol o entrepreneuriaid lleol. Cysylltwch, cydweithiwch, a thyfwch gyda pherchnogion busnes tebyg i chi yn eich ardal.