Skip to main content

Lesley Williams

CEO

Lesley Williams yw CEO Welsh ICE, lle mae’n arwain gweledigaeth y sefydliad i adeiladu cymunedau entrepreneuriaid cadarn ledled Cymru.

Gydag angerdd dros entrepreneuriaeth gynhwysol a newid economaidd ystyrlon, mae Lesley yn credu y dylai cymorth busnes wneud mwy na helpu pobl i ddechrau busnesau. I Lesley, dylai feithrin hyder, creu cyfleoedd, cryfhau cymunedau a helpu pobl i weld beth sy’n bosibl iddyn nhw eu hunain.

Fel CEO, mae Lesley wedi helpu i lunio cyfeiriad, partneriaethau ac effaith Welsh ICE, gan hyrwyddo dull mwy hygyrch, dan arweiniad y gymuned o gefnogi menter. Mae’n arbennig o frwd dros greu cyfleoedd mewn llefydd ac i bobl sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml, a sicrhau bod entrepreneuriaeth yn teimlo’n berthnasol, yn realistig ac yn newid bywydau go iawn.

Os hoffech fod yn bartner i Welsh ICE, archwilio syniad, neu gael gwybod mwy am ein gwaith, byddai Lesley wrth ei bodd yn clywed gennych.

Lesley Williams, CEO
Lesley Williams, CEO