Location
Ar gyfer y disgrifiad Cymraeg, sgroliwch i lawr.
Are you thinking about starting a customer-facing business in a Valleys town centre or high street, but not sure where to begin?
Whether you’reconsidering a shop, market stall, pop-up, or any customer-facing retail, these practical sessions will help you take your first real steps.
High Street Growth Sprint is for people with an idea, skill or product who want to turn it into something real. It’s about building confidence, understanding what’s involved, and moving from “thinking about it” to getting started.
You might have been told “you should do something with this”, started an Instagram page, sold a few items, or just have an idea you keep coming back to. Wherever you’re starting from, this session will help you make sense of your next steps.
What we’ll cover
You’ll explore your idea, who it’s for, and how to turn it into something people will actually buy.
We’ll look at:
- Clarifying your offer so people quickly understand it
- Identifying your customers and where to find them
- Simple ways to test your idea locally
- Building confidence in talking about what you do
- Basic pricing and what makes something viable
- Different ways to start trading (markets, pop-ups, home-based, premises)
- Practical steps you can take over the next 30 days
This is a practical, supportive session, not a lecture, designed to leave you with clear actions you can take.
Who is this for?
This session is for people who are not yet trading, or just starting to test an idea, and want to explore how to turn it into a customer-facing business in a Valleys town centre and high street.
This includes:
- Retail ideas
- Food and drink concepts
- Beauty and wellbeing services
- Creative products or services
- Visitor economy ideas
- Local services
- Social enterprises
- Market stalls or pop-ups
- Home-based businesses
You don’t need everything figured out. If you’ve got an idea or have started testing something informally, this session is for you.
Optional in-person clinic at Welsh ICE
You’ll also have the option to attend an in-person clinic at Welsh ICE for additional support and connection.
Bring a live challenge and get help with:
- Marketing and attracting customers
- Local visibility
- Sales and pricing
- Finance and funding signposting
- Town centre opportunities
- Business Wales support
- Welsh ICE community and membership
- Founder confidence and boundaries
If travel isn’t practical, similar support can be offered through 121 follow-up.
What you’ll leave with
- A clearer idea and offer
- A better understanding of your customers
- Practical steps to start testing your idea
- More confidence in talking about what you do
- A simple 30-day action plan
- A clearer view of what’s needed to begin trading
- A route into further support
- A warm invitation into the Welsh ICE community
Event format
Hybrid workshop: Thursday, 30th July, 6pm-8pm
Optional in-person clinic at Welsh ICE: Thursday 6th August, 6pm-8:30pm
121 triage: Flexible 20-30 minute slots (online or phone)
The workshop is delivered in a hybrid format, making it accessible across the Valleys communities while connecting you to Welsh ICE.
If this has caught your eye, it’s probably for a reason.
We have limited availability for this session, and we won’t be able to add more.
If you have any questions, please email [email protected] or call 02920 140 040.
In Collaboration with Business Wales
High Street Growth Sprint: Cymreag
Sbrint Twf y Stryd Fawr: Mwy o Gwsmeriaid, Mwy o Welededd, Camau Nesaf Cliriach
Ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes sy'n wynebu cwsmeriaid mewn canol tref neu ar y stryd fawr yn y Cymoedd, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Efallai eich bod chi'n ystyried agor siop, stondin farchnad, siop dros dro (pop-up), neu ryw fath arall o fusnes manwerthu. Beth bynnag yw'ch syniad, bydd y sesiynau ymarferol yma'n eich helpu i gymryd y camau cyntaf.
Mae Sbrint Twf y Stryd Fawr ar gyfer pobl sydd â syniad, sgìl neu gynnyrch ac sydd eisiau troi hynny'n rhywbeth go iawn. Mae'n gyfle i fagu hyder, deall beth sydd ynghlwm wrth ddechrau busnes, a symud o feddwl am y peth i wneud rhywbeth amdano.
Efallai fod rhywun wedi dweud wrthoch chi, "Fe ddylech chi wneud rhywbeth efo hwn." Efallai eich bod chi wedi dechrau tudalen Instagram, wedi gwerthu ambell beth, neu fod gennych chi syniad sy'n dal i ddod yn ôl atoch chi. Ble bynnag rydych chi ar eich taith, bydd y sesiwn yma'n eich helpu i weld yn glir beth i'w wneud nesaf.
Beth fyddwn ni'n edrych arno?
Byddwn ni'n helpu chi i ddatblygu'ch syniad, meddwl pwy fyddai'n ei brynu, a sut i'w droi'n rhywbeth sy'n gweithio.
Byddwn ni'n edrych ar:
- Sut i egluro'ch syniad fel bod pobl yn ei ddeall yn syth
- Pwy yw'ch cwsmeriaid a sut i'w cyrraedd
- Ffyrdd syml o roi'ch syniad ar brawf yn eich ardal leol
- Sut i siarad yn fwy hyderus am yr hyn rydych chi'n ei wneud
- Hanfodion prisio a gwneud yn siŵr bod eich syniad yn hyfyw
- Gwahanol ffyrdd o ddechrau masnachu (mewn marchnadoedd, siopau dros dro, o'r cartref neu o safle busnes)
- Camau y gallwch eu cymryd dros y 30 diwrnod nesaf
Dyw hon ddim yn ddarlith. Mae'n sesiwn ymarferol a chefnogol a fydd yn eich gadael gyda chamau clir i'w cymryd.
Pwy sy'n addas?
Mae'r sesiwn yma ar gyfer pobl sydd heb ddechrau masnachu eto, neu sydd newydd ddechrau profi syniad ac eisiau gweld sut i'w droi'n fusnes sy'n wynebu cwsmeriaid mewn canol tref neu ar y stryd fawr.
Gallai hynny gynnwys:
- Syniadau manwerthu
- Busnesau bwyd a diod
- Gwasanaethau harddwch a lles
- Cynhyrchion neu wasanaethau creadigol
- Syniadau sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr
- Gwasanaethau lleol
- Mentrau cymdeithasol
- Stondinau marchnad neu siopau dros dro
- Busnesau sy'n cael eu rhedeg o'r cartref
Does dim angen cael popeth wedi'i drefnu. Os oes gennych chi syniad, neu os ydych chi eisoes wedi dechrau rhoi cynnig ar rywbeth, mae'r sesiwn yma ar eich cyfer chi.
Clinig dewisol yn Welsh ICE
Bydd cyfle hefyd i ddod i glinig wyneb yn wyneb yn Welsh ICE i gael cymorth ychwanegol ac i gysylltu â phobl eraill sy'n cychwyn ar eu taith.
Gallwn eich helpu gyda:
- Marchnata a denu mwy o gwsmeriaid
- Codi'ch proffil yn lleol
- Gwerthu a phrisio
- Gwybodaeth am gyllid a ffynonellau ariannu
- Cyfleoedd mewn canol trefi
- Cymorth gan Business Wales
- Cymuned ac aelodaeth Welsh ICE
- Adeiladu hyder fel sylfaenydd a gosod ffiniau iach
Os nad yw teithio'n bosibl, gallwn gynnig yr un math o gymorth drwy sesiwn un-i-un ar-lein neu dros y ffôn.
Beth fyddwch chi'n mynd oddi yma gyda?
- Syniad a chynnig cliriach
- Gwell dealltwriaeth o'ch cwsmeriaid
- Camau ymarferol i ddechrau profi'ch syniad
- Mwy o hyder wrth siarad am eich busnes
- Cynllun gweithredu syml ar gyfer y 30 diwrnod nesaf
- Dealltwriaeth gliriach o'r hyn sydd ei angen i ddechrau masnachu
- Llwybr at gymorth pellach
- Croeso cynnes i gymuned Welsh ICE
Gweithdy hybrid: Dydd Iau, 30 Gorffennaf, 6yp-8yp
Clinig dewisol wyneb yn wyneb yn Welsh ICE: Dydd Iau, 6 Awst, 6yp-8:30yp
Sesiynau un-i-un: slotiau hyblyg o 20-30 munud (ar-lein neu dros y ffôn)
Bydd y gweithdy'n cael ei gynnal ar ffurf hybrid, felly mae'n hawdd ymuno o bob rhan o gymunedau'r Cymoedd, wrth roi cyfle i chi gysylltu â Welsh ICE.
Os yw hyn wedi dal eich llygad, mae'n debyg fod rheswm am hynny.
Mae nifer y lleoedd ar gyfer y sesiwn hon yn gyfyngedig, ac ni fydd modd ychwanegu rhagor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02920 140 040.
Mewn cydweithrediad â Busnes Cymru.